Mae mudiadau ymhob cwr o Gymru yn gweld y manteision o fedru cynnig gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg i'r cyhoedd yng Nghymru. Mae holl bwyslais y sector ar gydraddoldeb a gweithredu'n gynhwysol, ac yn unol â hynny mae Estyn Llaw yn cynnig cyngor i fudiadau gwirfoddol a chymunedol ynglŷn â sut i osgoi allgau ac eithrio siaradwyr Cymraeg ar sail iaith drwy weithredu yn ieithyddol ac yn ddiwylliannol addas.
Yn ogystal â bod yn fater o arfer da o ran yr agenda cydraddoldeb, mae dwyieithrwydd hefyd yn gallu agor drysau newydd i chi o ran ffynonellau cyllid cyhoeddus Cymreig ac Ewropeaidd, ynghyd ag ehangu cyfleoedd marchnata a chodi arian yng Nghymru.
Deddf yr Iaith Gymraeg 1993
Iaith Pawb
Datblygu Cymunedol a Chynllunio Ieithyddol
Darparwyr 3ydd Parti a Chyrff sy'n Derbyn Arian Cyhoeddus
Iechyd, Gofal a Lles
Strategaeth Sector Gwirfoddol Bwrdd yr Iaith Gymraeg