Yn ei
Strategaeth Sector Gwirfoddol mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg yn nodi grwpiau sy'n flaenoriaethau strategol wrth geisio datblygu dwyieithrwydd o fewn y sector:
• Cyrff sy'n gweithio ar lefel gymunedol gyda chyswllt agos â'r cyhoedd
• Cyrff mawr amlwg sydd â phroffil uchel yng Nghymru
• Cyrff sy'n gweithredu mewn ardaloedd traddodiadol Gymraeg
• Cyrff sy'n darparu gwasanaethau gofal ac iechyd
• Cyrff sy'n derbyn cyllid cyhoeddus sylweddol
Ond y neges sylfaenol yw, os ydych yn un o'r grwpiau blaenoriaeth neu beidio, mae cryfhau delwedd ddwyieithog eich mudiad yn fater o arfer da er mwyn sicrhau nad yw siaradwyr Cymraeg yn cael eu heithrio a'u hallgau. Mae gweithredu yn unol ag egwyddorion cynhwysiant a chydraddoldeb yn hanfodol bwysig os am gynnig gwasanaeth gydradd i siaradwyr Cymraeg a siaradwyr di-Gymraeg yn y Gymru ddwyieithog gyfoes.
Cysylltwch ag
Estyn Llaw os am gyngor a chyfarwyddyd pellach ar unrhyw un o'r materion hyn.