logo Estyn Llaw
Help / Cymorth

Compact y Trydydd Sector



Mae’r Compact yn gytundeb rhwng Llywodraeth Cymru, Comisiynydd y Gymraeg, y Trydydd Sector a dosbarthwyr Arian y Loteri er mwyn cydweithio i atgyfnerthu cefnogaeth y Trydydd Sector i’r defnydd o’r Gymraeg fel iaith gymunedol. Mae’r Compact, sydd i’w gweld yma, yn cyfuno polisïau, strategaethau ac agendâu pob parti er mwyn creu cyfres gyffredin o egwyddorion a chamau er mwyn sicrhau bod pob parti yn gweithio tuag at yr un amcanion ac yn rhannu’r un gwerthoedd. Bydd yn gymorth i osgoi dyblygu ymdrechion a sicrhau bod yr adnoddau priodol ar gael yn ôl yr angen er mwyn annog twf y Gymraeg.

Y weledigaeth sylfaenol a rennir yw y dylai fod cyfleoedd cyfartal i ddefnyddwyr gwasanaethau ddefnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn y Trydydd Sector:

bod mwy o wirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith ledled Cymru a
bod y Gymraeg yn cael ei phrif ffrydio ym mhob achos o ddatblygu polisi a dyrannu arian.

Mae Grŵp Llywio’r Compact Trydydd Sector yn cyfarfod o leiaf dwy waith y flwyddyn er mwyn sicrhau bod yr egwyddorion a nodir yn y Compact yn cael eu rhoi ar waith. Mae cofnodion a phapurau’r Grŵp Llywio i’w gweld yma.


27ain o Fawrth, 2012
21ain o Fedi, 2011
23ain o Fawrth, 2011
23ain o Dachwedd, 2010
Dyluniad: Dafydd Jones     Datblygu a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration