Agor Dau Ddrws: Cyflwyniad i Waith Ieuenctid Dwyieithog
Estyn Llaw am ogledd Cymru!
Kids Fun Club y Rhyl
Agor Dau Ddrws: Cyflwyniad i Waith Ieuenctid Dwyieithog
Mae cyhoeddiad sy'n cynnig cyflwyniad i waith ieuenctid dwyieithog ar fin cael ei lansio mewn amryw o leoliadau ar draws Cymru. Cyhoeddwyd Agor Dau Ddrws yn wreiddiol yn 2000 fel canllaw arfer da ar gyfer unigolion a mudiadau oedd yn ymwneud â gwaith ieuenctid ymhob sector.
Diolch i gefnogaeth gan yr Adran Plant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau - Llywodraeth Cynulliad Cymru, a'r hen Rhwydwaith Gefnogi Cymunedau yn Gyntaf (RhGCG), rydym wedi medru ymgynghori gyda chroestoriad o fudiadau ieuenctid fel rhan o'r broses o ddiweddaru ac ail-lunio'r wybodaeth.
Mae
Agor Dau Ddrws 2010 yn ganllaw pwysig ar gyfer cynnig darpariaeth ieuenctid trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. Bydd lleoliadau a dyddiadau'r lansiadau yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.
Estyn Llaw am ogledd Cymru!
Ers mis Mawrth eleni mae gwasanaeth Estyn Llaw wedi cyrraedd gogledd Cymru, gydag apwyntio Mari Wiliam o Lansannan yn swyddog maes dros yr ardal. Mae penodi Mari i dîm Estyn Llaw yn mynd i'n galluogi i gynnig gwasanaeth sydd yn wirioneddol genedlaethol o'n swyddfeydd yng Nghastell Newydd Emlyn a Llanelwy.

Dywedodd Mari ei bod yn mwynhau'r sialens o sefydlu Estyn Llaw yn y gogledd, ac wrth ei bodd yn cydweithio gyda mudiadau a phartneriaid yn yr ardal. Ymysg y partneriaid mae Mari wedi cydweithio â nhw yn barod yn y gogledd mae Mentrau Iaith Conwy, Dinbych a Fflint-Maelor, a hefyd Cynghorau Gwirfoddol Sirol Conwy, Dinbych, Fflint a Gwynedd.
Meddai Emyr Williams, Uwch Swyddog Datblygu Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Dinbych: "Mae yna sector wirfoddol ddeinamig ac effeithlon iawn o fewn Sir Ddinbych...Fe fydd cynllun Estyn Llaw yn siŵr o gryfhau effaith y Gymraeg ar y sector yn Sir yn y dyfodol, ac rydym yn annog mudiadau gwirfoddol lleol i gysylltu gyda Mari am gymorth gyda'r gwaith yma."
Kids Fun Club y Rhyl
Clwb cymdeithasol ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion arbennig yw
Kids Fun Club y Rhyl.
Er fod y clwb yn un nodedig o fywiog "Yr un peth sydd wedi bod ar goll yw'r gallu i wneud defnydd o'r Gymraeg," yn ôl Kevin, cydlynydd y clwb. 'Roedd Kevin wedi sylwi bod nifer o'r plant a fynychai'r clwb yn mwynhau gwersi Cymraeg yn yr ysgol, ond nad oedd llawer o gyfleoedd iddynt wneud gweithgareddau cymdeithasol trwy'r iaith.

Yn dilyn cyfarfod gydag Estyn Llaw, mae Kevin a Mari yn cydweithio erbyn hyn i gyflwyno mwy o elfennau Cymreig i'r clwb. Y cam cyntaf oedd cynnal hyfforddiant ar ddwyieithrwydd, gyda Mari'n mynd i Glwb Rygbi'r Rhyl i sgwrsio gyda nifer o wirfoddolwyr. Mae erthyglau i bapurau bro hefyd wedi'u llunio gan Estyn Llaw i geisio denu mwy o wirfoddolwyr cyfrwng Cymraeg i'r clwb.
"Trwy weithio mewn partneriaeth gyda Menter Iaith Dinbych, yn ystod mis Awst bwriadaf drefnu i aelodau canghennau Merched y Wawr lleol gynnal gweithgareddau dwyieithog yng nghlwb gwyliau y
Kids Fun Club," dywedodd Mari. Bydd Estyn Llaw hefyd yn cychwyn ar y broses o lunio cynllun iaith i'r mudiad.
Yn ôl Kevin: "... trwy gydweithio gyda Mari ac Estyn Llaw, 'rydym yn edrych ymlaen i ddenu mwy o wirfoddolwyr cyfrwng Cymraeg i alluogi'n haelodau i ganu, chwarae gemau ac actio yn ddwyieithog."