Croeso

Logo Estyn Llaw
Croeso i wefan Estyn Llaw. Mae Estyn Llaw ar gael i gynnig cefnogaeth a chymorth i fudiadau gwirfoddol a chymunedol i gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg er mwyn iddynt fedru cynnig dewis iaith cyflawn i'w defnyddwyr.

Sefydlwyd Cynllun Estyn Llaw yn 2000 fel rhaglen beilot yng ngorllewin Cymru yn rhannol er mwyn pontio'r gagendor oedd yn datblygu rhwng darparwyr gwasanaethau gwirfoddol ar yr un llaw, a siaradwyr Cymraeg ar y llaw arall. Erbyn hyn mae Estyn Llaw yn gweithio gyda mudiadau ymhob cwr o Gymru a thu hwnt. Noddir y Cynllun yn bennaf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Fwrdd yr Iaith Gymraeg, yn ogystal â gan rhai awdurdodau lleol. IAITH - y ganolfan cynllunio iaith sy'n gweinyddu'r cynllun o'r pencadlys yng Nghastellnewydd Emlyn.

Mae Estyn Llaw yn cydweithio gyda chyrff gwirfoddol, cyrff datblygu cymunedol, a gyda mudiadau cynllunio iaith megis Datblygu Cymunedol Cymru, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol, y Canolfannau Gwirfoddoli Sirol, Rhwydwaith Gefnogi Cymunedau yn Gyntaf a'r Mentrau Iaith.

"Mae Cynllun Estyn Llaw yn darparu gwasanaeth gwerthfawr iawn i'r sector gwirfoddol. Mae llwyddiant y Cynllun yn gyfraniad pwysig i gynyddu dewis iaith yng Nghymru." Medd Gareth Ioan, Prif weithredwr, Iaith cyf.
Datblygiad y wefan: Technoleg Taliesin Cyf. yn seiliedig ar gynllun gan Graham Jones