Cyhoeddwyd adroddiad o'r enw
'Y Gymraeg yn y Gwasanaeth Iechyd' gan y Cyngor Defnyddwyr yn 2000. Roedd yr adroddiad yn adnabod pedair carfan allweddol o bobl 'fregus' y dylid medru ymdrin â nhw yn eu hiaith gyntaf:
• Cleifion iechyd meddwl
• Pobl a chanddynt anableddau dysgu ac anghenion arbennig eraill
• Pobl hŷn
• Plant ifanc
Yng ngeiriau Bwrdd yr Iaith Gymraeg:
lle bydd pobl yn wynebu gofid, neu'n ddiamddiffyn, yn sâl neu'n anabl, gall peidio â chael cyfathrebu yn eu hiaith gyntaf eu rhoi o dan anfantais bersonol. O ystyried natur sensitif llawer o'r trafodaethau hyn, mae'n bwysig cynnig dewis iaith pryd bynnag y bydd hynny'n bosib.
[Canllaw 6(iv), tud 26]
Cynlluniau Iaith Gymraeg Bwrdd yr Iaith