Mae
Iaith Pawb: Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Cymru Ddwyieithog, a gyhoeddwyd yn 2003, yn nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru:
“Cymru gwbl ddwyieithog, sef gwlad lle y gall pobl ddewis byw eu bywydau naill ai drwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg neu'r ddwy iaith a lle mae bodolaeth y ddwy iaith yn fater o falchder a chryfder i ni i gyd.”
Gweithio i wireddu'r weledigaeth hon a wna Estyn Llaw, gan gynorthwyo mudiadau gwirfoddol a chymunedol i brif-ffrydio'r Gymraeg i bob agwedd o'u gweithgareddau.