Hyfforddiant


Mae cyrsiau a sesiynau hyfforddiant yn gallu bod yn ddulliau effeithiol iawn o newid agweddau, ac o newid arferion o ran defnydd iaith o fewn y sector gwirfoddol a chymunedol. Fel arfer mae hyfforddiant yn digwydd fel rhan o broses ehangach o gryfhau'r Gymraeg o fewn mudiad gwirfoddol o bosib drwy gyflwyno Cynllun Iaith.

Gall Estyn Llaw gynnal sesiynau sy'n cynnwys un neu fwy o'r themâu isod:

Ymwybyddiaeth Iaith
Datblygu dwyieithrwydd o fewn y sector gwirfoddol
Gweithio gyda'r sector gwirfoddol
Cynnal a chadeirio cyfarfodydd dwyieithog
Recriwtio gwirfoddolwyr dwyieithog
Marchnata eich mudiad yn ddwyieithog

Mae IAITH cyf., yr elusen sy'n gweinyddu cynllun Estyn Llaw, yn cynnig rhaglen eang o gyrsiau ar gyfer y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae'r rhaglen yn cael ei diweddaru'n gyson. Cliciwch yma am fwy o fanylion.

Datblygiad y wefan: Technoleg Taliesin Cyf. yn seiliedig ar gynllun gan Graham Jones