Gwybodaeth i Wirfoddolwyr


Awyddus i Wirfoddoli?

Ieuan Williams, CAVS a Sulwyn Thomas, Radio GlangwiliMae nifer fawr o siaradwyr Cymraeg yn gwirfoddoli, yn aml iawn heb sylweddoli eu bod yn gwneud hynny. Y patrwm cyffredin yw 'helpu allan' gyda mudiad Cymraeg lleol fel yr Urdd, y Ffermwyr Ifanc, Merched y Wawr, y capel, y neuadd bentref a.y.b. Ond gyda nifer cynyddol o fudiadau gwirfoddol rhanbarthol a chenedlaethol yn galw allan am wirfoddolwyr dwyieithog, mae'n bwysig i siaradwyr Cymraeg sy'n awyddus i wirfoddoli a chyfrannu i'w cymunedau, chwilio am gyfleoedd 'ffurfiol' i wneud hynny. Mae hyn yn rhywbeth sydd o bosib yn beth anghyfarwydd ac yn estron i nifer o siaradwyr Cymraeg, ond mae mudiadau gwirfoddol ym mhob rhan o Gymru yn sylweddoli na allant gynnig gwasanaeth dwyieithog cyflawn heb ymroddiad a sgiliau gwirfoddolwyr dwyieithog.

Drwy chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli 'ffurfiol' lle bydd modd i chi ddefnyddio'r Gymraeg, byddwch yn cynorthwyo mudiadau gwirfoddol a chymunedol i gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg ac yn galluogi aelodau o'r cyhoedd a defnyddwyr gwasanaethau gwirfoddol i ddefnyddio Cymraeg gyda'r mudiad, ac i dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg.


Sut i Gael hyd i Gyfleoedd Ffurfiol

Mae biwros gwirfoddoli ym mhob rhan o Gymru, yn amlach na pheidio yn gweithio yn agos iawn gyda'r Cynghorau Gwirfoddol Sirol. Gallwch gael manylion cyswllt eich biwro agosaf a rhestr o'r cyfleoedd sydd ar gael yn lleol drwy ymweld â www.gwirfoddolicymru.net

Cofiwch ddweud wrth swyddogion y biwro eich bod yn awyddus i ddefnyddio'ch sgiliau iaith Gymraeg mewn unrhyw leoliad gwirfoddol. Bydd hyn yn galluogi'r swyddogion i chwilio am fudiadau gwirfoddol sydd wedi holi yn benodol am wirfoddolwyr dwyieithog.

Os ydych chi'n teimlo'n fwy cyfforddus yn cysylltu gyda swyddogion Estyn Llaw yn gyntaf, mae croeso i chi wneud hynny, ac fe allwn ni gysylltu â'r biwro gwirfoddoli perthnasol ar eich rhan.
Datblygiad y wefan: Technoleg Taliesin Cyf. yn seiliedig ar gynllun gan Graham Jones