O bryd i'w gilydd mae mudiadau gwirfoddol a chymunedol angen codi'r ffôn i ofyn cyngor ar fater penodol, ac weithiau mae angen cefnogaeth fwy dwys dros gyfnod hirach o amser ar fater mwy cymhleth. Beth bynnag yw'ch anghenion, cysylltwch ag Estyn Llaw i fanteisio ar y gefnogaeth arbenigol rydym yn cynnig mewn nifer eang o feysydd ieithyddol.
Rydym ar gael yn llythrennol i 'estyn llaw' i fudiadau bach a mawr o'r sector gwirfoddol a chymunedol, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, er mwyn eu cynorthwyo i ddatblygu eu defnydd o'r Gymraeg.
Hyfforddiant
Cynlluniau Iaith
Dylunio Dwyieithog
Dod o Hyd i Gyfieithydd a Gweithio Gyda Chyfieithydd
Trefnu Digwyddiadau Dwyieithog
Cynnal a Chadeirio Cyfarfodydd Dwyieithog
Recriwtio Staff / Gwirfoddolwyr Dwyieithog
Datblygu Gwefan Ddwyieithog
Technoleg Gwybodaeth a'r Gymraeg
Cynnal Awdit Sgiliau Iaith
Hyfforddiant
Gall Estyn Llaw gynnig gweithdai a sesiynau hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith ac arferion iaith wedi eu teilwra yn benodol at anghenion eich mudiad chi. Fel arfer codir tâl am y gwasanaethau hyfforddi. O bryd i'w gilydd mae Estyn Llaw yn cynnal sesiynau hyfforddiant ar y cyd gyda'r Mentrau Iaith, y Cynghorau Gwirfoddol Sirol neu Rhwydwaith Gefnogi Cymunedau yn Gyntaf. Am fanylion pellach ewch i'r dudalen
Hyfforddiant.
Mae IAITH cyf. sy'n gweinyddu cynllun Estyn Llaw hefyd yn cynnal rhaglen hyfforddiant cynhwysfawr. Am fanylion pellach ewch i
www.iaith.eu
Cynlluniau Iaith
Os ydych yn awyddus i lunio, addasu neu ddiwygio Cynllun Iaith, neu angen cymorth i
weithredu rhannau penodol ohono, ewch i'r dudalen
Cynlluniau Iaith
Dylunio Dwyieithog
Gall baratoi deunydd yn ddwyieithog ehangu apêl eich mudiad a chryfhau eich delwedd ddwyieithog yn gyhoeddus. Gall Estyn Llaw roi cyngor i chi ynglŷn â sut i fynd ati i baratoi deunydd dwyieithog, yn arwyddion, yn daflenni, yn gyhoeddiadau a.y.b. fydd yn gydradd o ran cynnwys a dylunio. Wrth gynllunio unrhyw ddarn o waith, cofiwch ystyried y ddwy iaith o'r cychwyn cyntaf. Rhaid i'r person fydd yn creu'r gwaith, a'r dylunydd fydd yn cysodi'r gwaith, wybod fod y Gymraeg a'r Saesneg yn mynd i gael lle cydradd. Ystyriwch y ddwy iaith wrth gynllunio logo a delweddau gweledol neu wrth benderfynu ar is-bennawd neu slogan ar gyfer ymgyrch neu brosiect.
Gweler
Canllawiau dylunio dwyieithog Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
Dod o Hyd i Gyfieithydd a Gweithio Gyda Chyfieithydd
Mae'n hanfodol cael cyfieithu o safon, a sicrhau bod y gwaith yn cael ei brawf ddarllen. Gall hyn osgoi camgymeriadau diangen all fod yn embaras ac yn gostus i'w newid. Weithiau mae'n anodd gwybod ble i ddod o hyd i gyfieithydd cymwys a phrofiadol all gyfieithu yn ysgrifenedig neu ar y pryd i'ch mudiad gwirfoddol. Er nad ydym yn cynnig gwasanaeth cyfieithu ein hunain, gall Estyn Llaw eich cyfeirio at y cyfieithwyr sydd fwyaf addas i'ch dibenion a'ch cyllideb chi. Gweler ein taflen wybodaeth:
Gweithio gyda Chyfieithwyr.
Trefnu Digwyddiadau Dwyieithog
Os ydych yn ystyried trefnu digwyddiad cymdeithasol anffurfiol, beth am fynd ati i sicrhau bod yr achlysur yn un sy'n rhoi ystyriaeth gyfartal i'r Gymraeg a'r Saesneg. Mae creu naws ddwyieithog yn cydnabod ac yn adlewyrchu natur ddwyieithog Cymru, ac yn cydnabod y siaradwyr Cymraeg sydd yn eich ardal. Mae hefyd yn dangos agwedd gynhwysol sy'n cwmpasu aelodau o'r ddwy brif gymuned ieithyddol. Meddyliwch am gamau y gellid eu cymryd er mwyn i'r iaith Gymraeg gael ei gweld a'i chlywed yn eich gweithgareddau.
Cynnal a Chadeirio Cyfarfodydd Dwyieithog
Mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o fynychu a chyfrannu mewn cyfarfod neu gynhadledd os ydy'r achlysur yn cael ei weld fel un dwyieithog a chynhwysol. Mae pethau penodol all y trefnwyr a'r cadeirydd wneud er mwyn creu awyrgylch groesawgar lle mae'r mynychwyr yn teimlo'n ddigon cyfforddus i gyfrannu yn eu dewis iaith. Gweler ein taflen wybodaeth:
Trefnu a Chynnal Cyfarfodydd Dwyieithog Effeithiol.
Recriwtio Staff / Gwirfoddolwyr Dwyieithog
Mae'n beth amlwg i ddweud, ond bydd mudiad sydd â rhai staff a gwirfoddolwyr dwyieithog yn ei chael hi'n haws i weithredu'n ddwyieithog ac i gynnig dewis iaith i'w defnyddwyr, na mudiad heb unrhyw staff na gwirfoddolwyr dwyieithog. Weithiau mae mudiadau gwirfoddol yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i wirfoddolwyr neu staff dwyieithog, sydd yn ei dro yn ei gwneud yn anoddach iddynt gynyddu eu defnydd o'r Gymraeg. Mae gan Estyn Llaw brofiad o gynorthwyo amrywiol fudiadau gwirfoddol i ymateb i'r anawsterau hyn.
Datblygu Gwefan Ddwyieithog
Yn aml iawn un o'r pwyntiau cyswllt cyntaf rhwng mudiad gwirfoddol ac aelodau o'r gymuned a darpar ddefnyddwyr yw'r wefan. Mae'r rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol o bwysigrwydd cael gwefan atyniadol, ddefnyddiol a hawdd ei thramwyo, ond ydych chi erioed wedi ystyried cael gwefan fydd yn llwyddo i gyflawni'r amcanion hyn drwy gyfrwng y ddwy iaith swyddogol yng Nghymru?
Technoleg Gwybodaeth a'r Gymraeg
Os ydych yn awyddus i Gymreigio'ch mudiad gwirfoddol yn fewnol yn ogystal ag yn allanol, mae nifer o becynnau meddalwedd yn bodoli er mwyn galluogi staff sy'n ddysgwyr neu'n siaradwyr Cymraeg rhugl i ddefnyddio'r Gymraeg ar eu cyfrifiaduron. Mae'r hyn sy'n bodoli yn amrywio o ryngwynebau Cymraeg ar gyfer y systemau mwyaf poblogaidd, i becynnau gloywi iaith a phecynnau gwirio Cymraeg. Mae'r ddarpariaeth yn cynyddu ac yn ehangu yn gyson, felly cysylltwch ag Estyn Llaw am gyngor.
Cynnal Awdit Sgiliau Iaith
Fel rhan o'r broses o lunio Cynllun Iaith, ac o fesur gallu mudiad i weithredu'n ddwyieithog, mae'n werthfawr medru asesu'r sgiliau iaith cyfredol o fewn eich mudiad. Drwy fod yn ymwybodol o'r sgiliau hynny, gallwch sicrhau eich bod yn gwneud y defnydd gorau o'r sgiliau iaith sydd gan eich staff neu'ch gwirfoddolwyr. Gall Estyn Llaw eich cynghori a'ch cynorthwyo ynglŷn â sut i gynnal awdit o'r fath.
Os gall Estyn Llaw eich cynorthwyo mewn unrhyw ffordd, naill ai dros y ffôn, drwy e-bost neu drwy drefnu ymweliad a chyfarfod wyneb yn wyneb, cysylltwch â swyddogion Estyn Llaw. Mae'r manylion cyswllt i'w cael
yma.