Datblygu Dwyieithrwydd yn y Sector Gwirfoddol |
Yn 1993 daeth Deddf yr Iaith Gymraeg i rym. Tair prif elfen oedd i'r ddeddf sef:
• Cydraddoldeb – sefydlu'r egwyddor y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru
• Darparu Gwasanaethau – sicrhau bod cyrff cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru yn paratoi Cynlluniau Iaith yn disgrifio sut byddant yn darparu gwasanaethau Cymraeg yn unol â chanllawiau Bwrdd yr Iaith
• Sefydlu Bwrdd Iaith statudol er mwyn goruchwylio Cynlluniau Iaith a hyrwyddo'r Gymraeg yn gyffredinol
Mae'r sector gwirfoddol a chymunedol yn draddodiadol wedi bod yn flaengar ac yn arloesol o ran sicrhau cydraddoldeb a chynhwysiant, ac er nad oes rheidrwydd statudol ar fudiadau gwirfoddol i baratoi Cynlluniau Iaith, mae nifer cynyddol yn penderfynu gwneud hynny er mwyn sicrhau dewis iaith, a gwell safon o wasanaeth i'w defnyddwyr ac i'r cyhoedd.