Datblygu Cymunedol a Chynllunio Ieithyddol


Mae'r maes datblygu cymunedol yng Nghymru eisoes yn cydnabod pwysigrwydd yr iaith os am ddenu trigolion cymunedau i gyfranogi a pherchnogi prosiectau o fewn eu cymunedau. Yn y Fframwaith Strategol Cenedlaethol ar gyfer Datblygu Cymunedol yng Nghymru, dywed Llywodraeth y Cynulliad a Datblygu Cymunedol Cymru (DCC):

“Mae Cymru'n wlad ddwyieithog, ac mae angen i weithgaredd datblygu cymunedol ddeall a chydnabod hynny'n ymarferol. Ar ei symlaf, mae hyn yn golygu caniatáu i bobl gyfranogi yn yr iaith a ddewisant, gan weithio'n gynhwysol.”
Datblygiad y wefan: Technoleg Taliesin Cyf. yn seiliedig ar gynllun gan Graham Jones