Darparwyr 3ydd Parti a Chyrff sy'n Derbyn Arian Cyhoeddus


Os ydy'ch mudiad gwirfoddol chi yn darparu gwasanaethau ar ran corff cyhoeddus, neu yn derbyn arian sy'n deillio o gyllid cyhoeddus, oeddech chi'n gwybod bod cyfrifoldeb arbennig ar eich mudiad o ran darpariaeth ddwyieithog? Mae'r mudiadau hynny sy'n 'ddarparwyr 3ydd parti' ar ran corff cyhoeddus yn gorfod cydymffurfio â rhannau perthnasol Cynllun Iaith statudol y corff cyhoeddus sydd wedi comisiynu'r gwaith.

Os ydych chi'n derbyn cyllid cyhoeddus, mae Bwrdd yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi dogfen o'r enw 'Dyfarnu Grantiau, Benthyciadau a Nawdd: Materion yn ymwneud â'r Gymraeg'

“Dylai cyrff cyhoeddus sydd â chynlluniau iaith Gymraeg...sicrhau bod mudiadau gwirfoddol...sy'n derbyn grantiau, benthyciadau, nawdd neu arian arall yn gwneud defnydd priodol o'r Gymraeg pan fyddant yn ymgymryd â gweithgareddau yng Nghymru...Mae'r gweithgareddau hynny'n cynnwys darparu nwyddau a gwasanaethau; trefnu gweithgareddau y mae'r cyhoedd yn cymryd rhan ynddynt; dosbarthu deunydd printiedig a chyhoeddi gwefannau.”
Datblygiad y wefan: Technoleg Taliesin Cyf. yn seiliedig ar gynllun gan Graham Jones