Mae nifer cynyddol o fudiadau trydydd sector yn creu Cynlluniau Iaith, gan gydnabod bod defnyddwyr dwyieithog ac amlieithog yn teimlo’n fwy cartrefol a chysurus yn eu dewis iaith. Mae mudiad sydd â Chynllun Iaith yn awgrymu mudiad blaengar a chynhwysol sy’n parchu materion cydraddoldeb.
Mae datblygu Cynllun Iaith Gymraeg yn ddull effeithiol o ffurfioli darpariaeth Gymraeg ac o safoni ansawdd y gwasanaeth Cymraeg gall aelodau o’r cyhoedd a defnyddwyr ei ddisgwyl. Gall hefyd fod yn fodd o gryfhau ethos dwyieithog mudiad, ac o gydnabod twf y Gymraeg ym mhob rhan o Gymru.
Yn sgil y newidiadau i’r tirlun Cynllunio Iaith, mae’n bosib bydd Cynlluniau Iaith yn y 3ydd Sector yn cael eu diddymu, gyda chyfundrefn newydd yn cymryd eu lle. Ar hyn o bryd, mae’r Cynlluniau Iaith yn dal i fod mewn grym, ac anogwn mudiadau 3ydd sector i’w datblygu a’u gweithredu.
• Mae angen i’r broses o lunio a gweithredu Cynllun Iaith fod yn gwbl dryloyw, ac yn broses sy’n cynnwys staff a gwirfoddolwyr ar hyd y daith
• Gall Cynllun Iaith agor drysau i ffynonellau newydd o gyllid. Mae disgwyliadau ieithyddol penodol ar fudiadau 3ydd sector sy’n derbyn arian cyhoeddus
• Mae’r Gymraeg a dwyieithrwydd yn rhan annatod o Bolisi Cyhoeddus yng Nghymru erbyn hyn. Yn ôl Llywodraeth y Cynulliad, mae cyfrifoldeb ar gyrff ar draws y sectorau i gynnig a hwyluso dewis iaith yn rhagweithiol.
• Mae Cynllun Iaith yn dangos ymrwymiad cadarn gan eich mudiad tuag at y cyhoedd a’r defnyddwyr Cymraeg eu hiaith. Gall hynny arwain at lefelau uwch o gyfranogiad gan siaradwyr Cymraeg
• Nid pawb yng Nghymru sydd â’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt. Rydym yn genedl ddwyieithog gyda dwy iaith statudol, ac mae angen i ddarpariaeth yn y 3ydd sector adlewyrchu hynny
1.
Codi Ymwybyddiaeth - Gall fod yn hyfforddiant ffurfiol neu’n gyfarfod llai ffurfiol
• trafod rhesymau dros gynnig dewis iaith
• trafod pryderon ynglŷn â chynnig gwasanaethau yn ddwyieithog
• pwysleisio pwysigrwydd newid arferion yn ogystal â newid agweddau
• ennyn hyder y staff a’r gwirfoddolwyr yn y broses
• sicrhau cefnogaeth o frig y mudiad
2.
Adolygu Polisi ac Arferion Presennol
• asesu arferion presennol y mudiad
• mapio ble hoffai/dylai’r mudiad fod o fewn amserlen benodol
• adolygiad o gapasiti presennol mudiad i weithredu’n ddwyieithog / awdit sgiliau iaith / gwirlen o anghenion
• adnabod sgiliau ieithyddol sy’n bodoli o fewn y mudiad, ac adnabod unrhyw anghenion hyfforddi [Gloywi iaith, arferion gwaith, cyrsiau i ddechreuwyr.]
3.
Llunio / Addasu Cynllun Iaith
• gan defnyddio’r wybodaeth o’r cam blaenorol, gellir creu drafft cyntaf o’r Cynllun Iaith gyda chymorth templedi Bwrdd yr Iaith os yn addas
• sicrhau cytundeb mewnol ac ymrwymiad i’r broses o lunio a gweithredu’r Cynllun Iaith
• llunio amserlen weithredu realistig, a chanllawiau gweithredu ar gyfer staff a gwirfoddolwyr os yn addas
• llywio’r Cynllun drwy’r pwyllgorau mewnol perthnasol a sicrhau cytundeb ac ymrwymiad ar bob lefel
4.
Cymeradwyo’r Cynllun Iaith
• Comisiynydd y Gymraeg bydd yn cyflawni’r elfen hon o arwain y mudiad drwy’r broses o sicrhau cymeradwyaeth ffurfiol, gan gynorthwyo gydag ymgynghoriad cyhoeddus ar gynnwys y Cynllun Iaith os yn addas
5.
Gweithredu’r Cynllun Iaith
• sicrhau cefnogaeth, adnoddau a hyfforddiant pwrpasol i staff a gwirfoddolwyr i weithredu’r Cynllun Iaith
• sicrhau bod pawb yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau
• lansio’r Cynllun Iaith yn gyhoeddus
• monitro effeithlonrwydd y Cynllun Iaith, gan adrodd nôl yn flynyddol
• cefnogaeth barhaus gan Estyn Llaw, Comisiynydd y Gymraeg a’r Fenter Iaith leol
Does dim pwrpas i Gynllun Iaith os yw’n eistedd ar silff yn hel llwch. Rhaid iddi fod yn ddogfen sy’n cael ei gweithredu ar bob lefel ac ym mhob agwedd o weithgaredd y mudiad, gan bob aelod staff a gwirfoddolwr. Mae gan bawb rôl i’w chwarae beth bynnag yw lefel eu sgiliau iaith Gymraeg.
Mae’r ddogfen ‘O’n Gwirfodd’ yn cynnig arweiniad a chanllawiau arfer da i ddatblygu’r Gymraeg yn y sector gwirfoddol.
Gweler dempled o Gynllun Iaith o wefan Comisiynydd y Gymraeg
yma.
Cysylltwch ag Estyn Llaw, neu gyda Comisiynydd y Gymraeg am gyngor pellach.