Cynlluniau Iaith


Os oes mudiad gwirfoddol neu gymunedol yn awyddus i lunio cynllun iaith o'r newydd, neu yn awyddus i addasu neu ddiwygio cynllun iaith sy'n bodoli yn barod, cysylltwch gydag Estyn Llaw neu gydag uned sector gwirfoddol Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Gallwn ni eich arwain drwy'r broses, gan gynnig cyngor a chymorth ar hyd y daith.

Yn gyffredinol bydd y broses o greu Cynllun Iaith yn cynnwys nifer o gamau penodol, yn dibynnu ar anghenion y mudiad dan sylw wrth reswm. Bydd y camau ddim o reidrwydd yn dilyn y drefn a welir yma.

Codi Ymwybyddiaeth Staff, Gwirfoddolwyr ac Ymddiriedolwyr

   • herio rhagdybiaethau ynglŷn â chynyddu gwasanaethau Cymraeg
   • esbonio'r rhesymau dros gynnig dewis iaith
   • pwysleisio pwysigrwydd newid arferion yn ogystal â newid agweddau
   • trafod pryderon ac amheuon staff ynglŷn â gweithredu Cynllun Iaith
   • y Gymraeg o fewn yr agenda cydraddoldebau a pholisi cyhoeddus
   • cyflwyno arfer da
   • pwysleisio'r agweddau statudol i fudiadau gwirfoddol sy'n ddarparwyr trydydd parti.

Adolygu Polisi ac Arferion Presennol

   • asesu arferion presennol y mudiad
   • mapio allan ble hoffai/dylai'r mudiad fod o fewn amserlen benodol
   • adolygiad o allu presennol mudiad i weithredu'n ddwyieithog / awdit sgiliau iaith / gwirlen o anghenion
   • adnabod sgiliau ieithyddol sy'n bodoli o fewn y mudiad, ond sydd ddim yn cael eu defnyddio yn llawn
   • adnabod unrhyw anghenion hyfforddi. (Gloywi iaith, arferion gwaith, cyrsiau i ddechreuwyr)

Llunio / Addasu Cynllun Iaith

   • bydd drafft cyntaf y Cynllun Iaith yn seiliedig i raddau ar ganlyniadau'r cam blaenorol yn y broses
   • gosod amserlen realistig
   • sicrhau cytundeb mewnol i'r broses o lunio Cynllun Iaith, ac ymrwymiad mewn egwyddor i gyllid i wireddu'r Cynllun
   • llunio canllawiau gweithredu ar gyfer staff a gwirfoddolwyr
   • llywio'r Cynllun drwy'r pwyllgorau mewnol perthnasol a sicrhau cytundeb ac ymrwymiad.

Cymeradwyo'r Cynllun Iaith

Bwrdd yr Iaith bydd yn cyflawni'r elfen hon o arwain y mudiad drwy'r broses o sicrhau cymeradwyaeth ffurfiol.

   • cynorthwyo gydag ymgynghoriad cyhoeddus ar gynnwys y Cynllun Iaith os yn addas
   • yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus mae'n bosib bydd angen ail-lunio rhai elfennau cyn i'r broses gymeradwyo gael ei chwblhau.

Gweithredu'r Cynllun IaithLansio Cynllun Iaith Shelter Cymru

   • sicrhau cefnogaeth, adnoddau a hyfforddiant pwrpasol i staff a gwirfoddolwyr i weithredu'r Cynllun Iaith
   • sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau
   • lansio'r Cynllun Iaith yn gyhoeddus
   • monitro effeithlonrwydd y Cynllun Iaith, gan adrodd nôl yn flynyddol
   • cefnogaeth a chymorth i gyflawni elfennau penodol o'r Cynllun Iaith
   • datblygu, cryfhau ac ehangu'r Cynllun Iaith.


Cefnogaeth Barhaus

   • Estyn Llaw, Bwrdd yr Iaith Gymraeg neu'r Mentrau Iaith ar gael i gynghori a chefnogi yn barhaus
   • y mudiad ar gael i fentora a chynghori mudiadau eraill sy'n cychwyn ar y broses neu ynghanol y broses o lunio neu addasu Cynllun Iaith.


Mae gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, dan nawdd Fwrdd yr Iaith Gymraeg, gyhoeddiad o'r enw 'O'n Gwirfodd' sy'n cynnig arweiniad a chanllawiau arfer da i ddatblygu'r Gymraeg yn y sector gwirfoddol.

Cysylltwch ag Estyn Llaw, neu gyda Bwrdd yr Iaith Gymraeg am gymorth pellach.
Datblygiad y wefan: Technoleg Taliesin Cyf. yn seiliedig ar gynllun gan Graham Jones