Gwasanaethu Partneriaethau Cymunedau yn Gyntaf



Mae Estyn Llaw yn cydweithio gyda Gwasanaeth Cynghori Cymunedau yn Gyntaf, CGGC / WCVA, er mwyn cynnig cyngor a chefnogaeth yn ymwneud â'r iaith Gymraeg a dwyieithrwydd i Bartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf.

Os ydych chi'n cynrychioli un o Bartneriaethau C1af ac yn awyddus i gael cymorth neu arweiniad ar faterion yn ymwneud â'r iaith Gymraeg a datblygu dwyieithrwydd yn rhad ac yn ddim, cysylltwch â desg gymorth Cymunedau yn Gyntaf drwy ffonio 0800 587 8898 neu drwy e-bostio . Mae manylion pellach i'w cael ar y wefan: www.cymunedau-yn-gyntaf.org


Bu Estyn Llaw yn cydweithio gyda'r Rhwydwaith Gefnogi gynt, gan gynnig arweiniad a chreu adnoddau penodol i aelodau'r Rhwydwaith a Phartneriaethau Cymunedau yn Gyntaf.

Mae'r adnoddau a'r adroddiadau ar gael yma.

CGGC/WCVA
Cymunedau yn Gyntaf

Datblygiad y wefan: Technoleg Taliesin Cyf. yn seiliedig ar gynllun gan Graham Jones