Gall Cynllun Estyn
Llaw drefnu hyfforddiant pwrpasol ar eich cyfer ar unrhyw un
o’r themâu
canlynol:
|
|
· Ymwybyddiaeth iaith: Cyflwyniad
i bwysigrwydd darparu gwasanaethau a gweithgareddau dwyieithog
yng Nghymru
· Recriwtio Gwirfoddolwyr
Dwyieithog: Hoffech
chi ddatblygu ffyrdd mwy effeithiol o recriwtio siaradwyr Cymraeg
i’ch mudiad chi? · Iaith Ofalgar: Galluogi mudiadau sy’n gweithio
yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu darpariaeth
dwyieithog.
· Datblygu Dwyieithrwydd: Beth yw’r camau ymarferol
all eich mudiad chi gymryd i ddatblygu dwyieithrwydd?
· Delio gyda’r cyfryngau yn ddwyieithog: Os ydych
chi am gael sylw i’ch mudiad yn y cyfryngau Cymraeg, dyma’r
cwrs ichi.
· Cadeirio cyfarfodydd dwyieithog: Mae
cynnal cyfarfodydd dwyieithog yn dipyn o gamp; gall yr hyfforddiant
yma
eich galluogi
i ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol.
· Gweithio gyda chymunedau Cymraeg: Ydych chi’n gweithio
yn y maes datblygu cymunedol? Dyma gwrs hanfodol ichi.
· Gwirfoddoli dwyieithog: Ydych chi’n siarad Cymraeg
ac yn wirfoddolwr/wraig? Oes ganddoch chi ddiddordeb mewn defnyddio’ch
Cymraeg wrth wirfoddoli. Gall y cwrs yma fod o help mawr i’ch
cefnogi chi.
|
|
Gallwn gynnig yr hyfforddiant yma fel gweithdai
dwy awr neu gyrsiau diwrnod. Gallwn eu cynnig yn Gymraeg neu yn
Saesneg neu gydag offer cyfieithu. Mae ein costau yn rhesymol iawn.
Os oes gennych ddiddordeb yn unrhyw un o’r
pynciau uchod neu os oes gennych anghenion hyfforddi eraill,rhowch
wybod.. |