| Mae llawer iawn o fudiadau gwirfoddol yn galw allan am wirfoddolwyr
neu staff sy’n medru siarad Cymraeg.
Yn ddiweddar, gwnaeth yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol apêl
arbennig am fwy o siaradwyr Cymraeg i wirfoddoli gyda hwy fel y
gallent gynnig mwy o wasanaethau a gweithgareddau yn Gymraeg. Os
hoffech ddarllen mwy, ewch at safle we BBC Cymru. www.
bbc.co.uk/cymru
Gall Estyn Llaw helpu eich mudiad chi i lunio strategaeth recriwtio
wedi ei anelu’n benodol at siaradwyr Cymraeg. Ydy eich mudiad
chi yn defnyddio’r Gymraeg wrth hysbysebu? Oes gan eich mudiad
chi broffeil yn y wasg a’r cyfryngau Cymraeg? Ydi eich mudiad
chi yn mynychu digwyddiadau Cymraeg. Cysylltwch gyda ni. Rhowch
wybod hefyd os hoffech chi hysbysebu gwaith eich mudiad ar ein
safle we.
|

|
Am wybodaeth am Bapurau Bro pob ardal yng Nghymru
ewch i safle we; www.bbc.co.uk/cymru
Am wybodaeth am ddigwyddiadau Cymraeg yn eich ardal, ewch i safle
we www.mentrau-iaith.com neu www.bbc.co.uk/cymru
Wrth geisio denu siaradwyr Cymraeg, dylai pob mudiad gwirfoddol
sylweddoli ei fod yn bwysig bod siaradwyr Cymraeg yn medru teimlo’n
gartrefol o fewn y mudiad. Yn hyn o beth, gall Estyn Llaw gynghori
eich mudiad chi ar y math o gamau y gallech gymryd i gwrdd ag anghenion
cefnogaeth siaradwyr Cymraeg.
Gyda llaw, mae cynnig cyfle i wirfoddolwyr neu staff i wella eu
sgiliau Cymraeg wrth siarad neu ddarllen neu ysgrifennu yn bwysig
hefyd ac mae gan Estyn Llaw wybodaeth am gyrsiau i’ch helpu.
Os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli’n ffurfiol neu
weithio i fudiad gwirfoddol, gallwn ni eich cefnogi i chi ddefnyddio’ch
Cymraeg er mwyn cynyddu dwyieithrwydd yn y mudiad. Gallwn ni hefyd
eich cynghori am gyfleoedd gwirfoddoli penodol yn y Gymraeg naill
ai mewn mudiadau sy’n gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg neu
mewn rhai sy’n gweithredu’n ddwyieithog.
Os am fwy o wybodaeth cyffredinol am wirfoddoli, gallwch edrych
ar wefan Gwirfoddoli Cymru;www.gwirfoddoli-cymru.net.
Mae CSV Cymru (Community Service Volunteers) yn ymwybodol iawn
o bwysigrwydd sicrhau dewis iaith o fewn y sector gwirfoddol. Maent
o’r farn bod gweithredu’n ddwyieithog o fewn y sector
o fudd i bawb. Medd Gwion Evans, Rheolwr Gwirfoddoli cyfrwng Cymraeg
CSV;
“Mae’r defnyddwyr gwasanaethau yn ennill trwy fedru
dewis iaith ac mae’r elusennau neu sefydliadau yn lledaenu
eu hapêl gan ddenu mwy o wirfoddolwyr a chodi proffil mewn
ardaloedd ac elfennau o’r wasg oedd yn ddieithr iddynt cynt.”
Er hyn, mae ymrwymiad CSV Cymru tuag at ddwyieithrwydd yn amgenach
na’r syniad o arfer da a chynllun iaith sy’n sicrhau
gwasanaeth yn y Gymraeg.
Mae’r mwyafrif o’u cynlluniau gwirfoddoli yn ymwneud â meysydd
sensitif iawn, er enghraifft ym meysydd digartrefedd, cyfiawnder
ieuenctid a’r sector gofal. Mae’n hanfodol bwysig i’r
bobl sy’n elwa o’r gefnogaeth a ddarparir gan ein gwirfoddolwyr
eu bod yn medru cyfathrebu a mynegi eu hunain yn rhugl a thrwy
wirfoddolwyr dwyieithog mae hyn yn bosibl gan bod pobl yn medru
troi i’r Gymraeg pe dymunent.
Mae gan CSV Cymru gynllun unigryw sydd yn galluogi pobl i wirfoddoli’n
llawn amser. Mae gwirfoddolwyr yn ymrwymo i gyfnod rhwng 4 a 12
mis, fel arfer i ffwrdd o’u cartref. Gall natur y gwirfoddoli
amrywio – mentora pobl ifanc sydd mewn perygl o droseddu,
helpu pobl mewn hostel i’r digartref, cynorthwyo pobl anabl,
rhoi cyfle i fyfyrwyr anabl i fyw’n annibynnol yn y coleg
a nifer o gyfleoedd eraill. Yn ogystal â llety, mae’r
gwirfoddolwyr yn derbyn lwfans wythnosol o £64.50.
Mae CSV yn cydweithio gyda miloedd o gyrff a sefydliadau trwy’r
DU, gan gynnwys Gwasanaethau Cymdeithasol, Cymdeithasau Tai, Timoedd
Troseddu Ieuenctid, Elusennau sector gofal a llawer mwy.
Ar hyn o bryd, mae CSV wrthi’n datblygu cyfleoedd gwirfoddoli
dwyieithog ac felly’n apelio am bobl ifanc sy’n chwilio
am her, yn awyddus i fyw’n annibynnol ac i helpu i wneud
gwahaniaeth i gymunedau trwy Gymru.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Gwion Evans – Rheolwr
Gwirfoddoli Cyfrwng Cymraeg CSV Cymru, ar 01792 301188 neu gevans@csv.org.uk
Holiadur Gwirfoddoli>>
|