![]() |
|||||||||||||||||||||||
|
Eisteddfod Sir Fflint 2007 Cynllun Iaith Gwaith yn y Sector Gwirfoddol Grav yn Cefnogi Estyn Llaw Estyn Llaw a Cymunedau yn Gyntaf yn Ateb yr Her Eisteddfod Abertawe 2006 |
Cyngor i Fudiadau Y Gymraeg; priod iaith Cymru Y Gymraeg yw priod iaith Cymru yn yr ystyr mai hi yw’r iaith sy’n gwbl unigryw i’r wlad yn hanesyddol. Yn wyneb nifer o ffactorau economaidd, diwylliannol a chymdeithasol, mae’r nifer o siaradwyr Cymraeg a’r defnydd o’r Gymraeg wedi dirywio dros amser yn enwedig o ran lefelau canrannau siaradwyr Cymraeg mewn cymunedau daearyddol penodol. Ond, ers chwedegau’r ganrif ddiwethaf bu ymgyrchu brwd dros ddiogelu dyfodol y Gymraeg ac yn gyffredinol, mae pwysigrwydd ac arwyddocâd y Gymraeg wedi eu sefydlu ym mywydau pobl Cymru. Dyma rai datblygiadau arwyddocaol yn hanes diweddar y Gymraeg; - twf a datblygiad y galw am addysg Gymraeg Ers sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mae dwyieithrwydd yn cael ei arddel fel agwedd gwerthfawr o fywyd Cymru a cheir pwyslais ar statws swyddogol y Gymraeg. Ond, er gwaethaf y statws swyddogol, ceir gwahaniaeth pwer amlwg rhwng y Gymraeg a’r Saesneg. Mae ymgyrchu dros ddyfodol y Gymraeg a chymunedau Cymraeg yn parhau ac mae angen gweithredu strategaethau penodol ym mhob maes i hyrwyddo’r Gymraeg a sicrhau ei dyfodol yn enwedig fel iaith gymunedol fyw. Am hanes ymgyrchu dros hawliau i’r Gymraeg, gallwch fynd i safle we Cymdeithas yr Iaith Gymraeg www.cymdeithas.com Am wybodaeth am hanes yr iaith Gymraeg, gallwch fynd i safle we BBC Cymru www.bbc.co.uk/cymru neu www.cymruarywe.org.uk a dilyn y cysylltiadau am ddwyieithrwydd a’r iaith Gymraeg. Cyfrifiad 2001 Dyma rai ffeithiau am sefyllfa’r Gymraeg heddiw gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd am y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2001.
Gallwch gael golwg manylach ar ganlyniadau Cyfrifiad 2001 a’r iaith Gymraeg ar safle we Bwrdd yr Iaith Gymraeg www.bwrdd-yr-iaith.org.uk Y Cyhoedd yn Disgwyl Dwyieithrwydd Mae ymchwil gan Estyn Llaw yn dangos bod y cyhoedd yn disgwyl i gyrff ac elusennau sy’n gweithredu yng Nghymru fedru gwneud hynny yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg. Dros 90% o’r farn y dylaimudiadau gwirfoddolweithredu’n ddwyieithog yng Nghymru : Arolwg Estyn Llaw, 2004 Mae hyn yn cadarnhau canfyddiadau o ymarferion ymchwil eraill; Dywedodd 83% o ymatebwyr mewn pôl piniwn i Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn 1996 eu bod yn cytuno y dylai cyrff cyhoeddus fedru delio gyda phobl drwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg ar sail gyfartal. Does dim amheuaeth bod angen i unrhyw fudiad gwirfoddol sy’n gweithredu yng Nghymru ddatblygu strategaethau penodol o ran staffio, marchnata, darpariaeth gwasanaeth, gweithgareddau wneud hynny gan ddefnyddio’r Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg os ydynt am fod yn effeithiol ym marn y cyhoedd. Mae’n fater syml: darpariaeth dwyieithog ar gyfer cyhoedd dwyieithog! Iaith ac Identiti Mae cyswllt amlwg rhwng iaith ac identiti ar lefel unigol a chymunedol. “ Mae iaith yn llawer iawn mwy na chyfrwng cyfathrebu. Nid yn unig mae iaith yn lliwio ein dealltwriaeth o’r amgylchedd... ond trwy ei geirfa a’i strwythur, trwy ei chysylltiadau llenyddol, trwy y symbol ag ydyw a’r symbolau mae’n cyfleu, mae iaith yn creu hunaniaeth unigryw sydd ar yr un pryd yn perthyn i draddodiad ac yn fynegiant o’r presennol.” Aitchison a Carter, 1994
Pan anwybyddir y Gymraeg, mae perygl real bod siaradwyr Cymraeg yn cael eu dieithrio a’u hynysu. Mewn rhai sefyllfaoedd gall hyn arwain at siaradwyr Cymraeg yn derbyn gwasanaethau eilradd neu yn cael eu cau allan yn gyfan gwbl. I fudiadau sy’n gweithredu yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, mae gallu cyrraedd at deimladau a phrofiadau arwyddocaol yn holl bwysig. O sylweddoli pa mor sylfaenol yw iaith ac identiti diwylliannol i hanfod emosiynau a meddyliau person, deallir mai y ffordd fwyaf effeithiol i wneud hynny yw trwy fod siaradwyr Cymraeg yn cael cynnig gwasanaethau yn Gymraeg. Dewis Iaith Er mwyn cynnig dewis iaith i’r cyhoedd mewn modd effeithiol, mae’n bwysig dilyn y 3 egwyddor yma
Os oes rhaid aros neu creu stðr er mwyn cael gwasanaeth yn Gymraeg, bydd y cyhoedd ar y cyfan yn troi at y Saesneg. Y perygl wedyn yw bod siaradwyr Cymraeg yn troi’n anweledig ac yn cael eu dieithrio. Beth allwch chi wneud? · Rhowch gyfarchiad dwyieithog ar y ffôn
neu wrth gysylltu gyda phobl am y tro cyntaf Mae Cyngor Defnyddwyr Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd cynnig dewis iaith Gymraeg ac maent yn gweithio i hybu hawliau siaradwyr Cymraeg fel defnyddwyr Cymraeg. Ar hyn o bryd mae nhw wrthi’n paratoi papur ar osod hawliau siaradwyr Cymraeg o fewn cyd-destun hawliau dynol Ewropeaidd. Am wybodaeth pellach, ewch i’w gwefan www.wales-consumer.org.uk Manteision Dwyieithrwydd Trwy gynyddu dwyieithrwydd gall mudiad ennill sawl mantais.
Erbyn hyn, wrth gwrs, mae sawl corff wedi deall bod dwyieithrwydd yn cynnig fframwaith gwella ansawdd i fudiadau gwirfoddol a chymunedol a cheir llawer o enghreifftiau o ymarfer da. Gall eich mudiad chi elwa o ddilyn esiamplau mudiadau eraill ym mhob sector; addysg, gwaith gyda phlant, yr amgylchedd ayb. Cysylltwch gyda ni am fanylion esiamplau ymarfer da ym maes eich mudiad chi. Beth all Cynllun Estyn Llaw gynnig? Mae Cynllun Estyn Llaw yn brosiect unigryw i’r sector wirfoddol a chymunedol yng Nghymru. Yn llythrennol, mae’n cynnig help llaw i fudiadau mawr neu bach i’w cynorthwyo i ddatblygu eu defnydd o’r iaith Gymraeg. Rydym yn cynnig; · Ymweliad i drafod anghenion cefnogaeth eich mudiad · Cynllun cofrestru rhad ac am ddim · Cytundeb gweithio rhwng Estyn Llaw a’ch mudiad dros gyfnod o 3 mis neu fwy i nodi tasgau a chamau penodol realistig i gynyddu dwyieithrwydd Yn ddiweddar, rydym wedi datblygu
pecyn gwybodaeth i’r Cynllun
sy’n cynnwys adnoddau penodol all helpu eich mudiad i gynyddu
ei ddwyieithrwydd. Gallwch islwytho ein taflenni gwybodaeth yma o’n hadran cyhoeddiadau. |
![]() |