![]() |
|||||||||||||||||||||||
|
Eisteddfod Sir Fflint 2007 Cynllun Iaith Gwaith yn y Sector Gwirfoddol Grav yn Cefnogi Estyn Llaw Estyn Llaw a Cymunedau yn Gyntaf yn Ateb yr Her Eisteddfod Abertawe 2006 |
Cefndir Ydych chi'n gwybod? Os yw eich mudiad yn derbyn arian cyhoeddus ac yn cytuno i ddarparu gwasanaethau ar ran cyrff cyhoeddus fel Cynghorau Lleol ac Ymddiriedolaethau Iechyd, mae’n rhaid ichi gyfarfod â gofynion Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 sy’n cynnwys cydymffurfio gyda Chynlluniau Iaith Gymraeg. Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a’r Sector Gwirfoddol Sefydlodd Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yr egwyddor bod y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru. Mae’r Ddeddf yn gosod disgwyliad statudol ar gyrff cyhoeddus i gyhoeddi Cynllun Iaith Gymraeg. Pwrpas Cynllun Iaith yw amlinellu sut fydd corff neu sefydliad yn gweithredu’r egwyddor bod y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Y Cynllun Iaith sy’n disgrifio sut fydd y corff yn darparu gwasanaethau dwyieithog i’r cyhoedd a rhaid hefyd cyhoeddi amserlen gweithredu ar gyfer datblygu’r ddarpariaeth. Mae pob Cynllun Iaith yn cynnwys cymal am gyrff trydydd parti ac yn rhoi disgwyliad clir bod cyrff a gontractir i ddarparu gwasanaethau ar ran corff cyhoeddus hefyd yn gorfod cydymffurfio gyda’r egwyddor cydraddoldeb. Y dyddiau yma, mae mwy a mwy o fudiadau gwirfoddol yn gweithio o dan gytundeb i gyrff cyhoeddus, yn enwedig Awdurdodau Lleol ac Ymddiriedolaethau Iechyd ac felly mae angen iddyn nhw sicrhau eu bod yn trin y Gymraeg a’r Saesneg yn gyfartal. Hefyd, mae mwy a mwy o gynlluniau ariannu fel Amcan 1 yn gofyn am dystiolaeth ynghylch cynllunio ar gyfer gweithredu dwyieithog ac ystyriaeth o anghenion siaradwyr a chymunedau Cymraeg. Mae Canllawiau ar gael ar sut i lunio Cynlluniau Iaith a gall Cynllun Estyn Llaw eich helpu i ystyried y camau at greu Cynllun Iaith neu Bolisi Iaith. Erbyn hyn, mae gan lawer o gyrff gwirfoddol bolisïau neu Gynlluniau Iaith ac mae’r rhain o gymorth mawr i fudiadau gymryd camau strategol pendant i ddatblygu dwyieithrwydd. Bydd polisi neu Cynllun Iaith fel arfer yn cynnwys y penawdau canlynol; · Datganiad o fwriad i drin y Gymraeg yn gyfartal gyda’r
Saesneg Gallwch ddarllen copi o destun Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 trwy fynd i’r safle we www.cymruarywe.org.uk a dilyn y cysylltiadau am yr iaith Gymraeg a dwyieithrwydd. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth a chanllawiau am Gynlluniau Iaith Gymraeg ar safle we Bwrdd yr Iaith Gymraeg www.bwrdd-yr-iaith.org.uk Os hoffai eich mudiad chi lunio Polisi neu Gynllun Iaith – cysylltwch am gyngor gan Estyn Llaw. Y Gymraeg – Iaith Pawb Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi datgan yn glir bod dwyieithrwydd yn beth da i Gymru a bod angen ehangu defnydd o’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru. “Iaith Pawb” yw’r ddogfen sy’n amlinellu strategaeth genedlaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer datblygu dwyieithrwydd. Mae’n cynnwys disgwyliad clir; y bydd gan y cyhoedd hawl i ddewis gwasanaethau a gweithgareddau o bob math yn Gymraeg neu yn Saesneg. Dyma neges y ddogfen yn benodol ar gyfer mudiadau gwirfoddol; “ Byddwn yn eu hannog ( mudiadau a chyrff gwirfoddol) yn gryf i ymgymryd â’r cyfrifoldeb o ddatblygu darpariaeth gwasanaethau dwyieithog” Iaith Pawb 2003 Gallwch islwytho copi o Iaith Pawb oddi ar safle we Cynulliad Cenedlaethol Cymru www.wales.gov.uk Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a’r Gymraeg Mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn glir bod pam bod angen i fudiadau a chyrff gwirfoddol ddatblygu eu dwyieithrwydd. Dywed Graham Benfield, Prif weithredwr CGGC: “Mae'n bwysig bod mudiadau gwirfoddol yn gallu gweithio'n ddwyieithog er mwyn gallu cynnig gwell gwasanaeth i'w haelodau sy'n Gymry Cymraeg a hefyd er mwyn rhoi cydnabyddiaeth i natur ddwyieithog Cymru. Yn ogystal, mae llawer o fanteision eraill ar gael drwy fabwysiadu dwyieithrwydd, megis codi delwedd Gymreig y mudiad a denu gwirfoddolwyr Cymraeg.” Mae CGGC wedi cyhoeddi canllawiau penodol – “O’n Gwirfodd” sy’n cynnwys cyngor ymarferol i fudiadau gwirfoddol am y camau i’w cymryd i gynyddu dwyieithrwydd. Pwysleisia Graham Benfield: “Mae gan CGGC, fel corff ymbarél y sector, a phrosiectau arbenigol fel Estyn Llaw, rôl i chwarae i annog mudiadau gwirfoddol i fod yn fwy hyderus wrth ddatblygu defnydd cynyddol o'r iaith yn eu gwaith bob dydd.” Cewch fwy o wybodaeth a chyfle i archebu copi o “O’n Gwirfodd” ar safle we CGG www.cggc.org.uk. Y Gymraeg yn un o’r Cydraddoldebau Yn gyffredinol, mae sicrhau cydraddoldeb rhwng
defnydd o’r Gymraeg
a’r Saesneg yn cael ei ystyried fel rhan annatod o hybu tegwch
yn ein cymdeithas. Cynhwysir y Gymraeg fel un o’r cydraddoldebau
craidd yn y Safon Gydraddoldeb a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer Llywodraeth
Lleol. Gallwch gael copi o’r Safon trwy gysylltu gyda Chymdeithas
Llywodraeth Leol Cymru yn www.wlga.gov.uk
|
![]() |