Beth Yw Estyn Llaw
Dewislen Top Estyn Llaw
Logo Cynllun Estyn Llaw Scheme Dewislen Top Estyn Llaw Linc: Cyhoeddiadau a Thaflenni Dewislen Top Estyn Llaw
Dewislen Top Estyn Llaw Linc: Cyngor i Fudiadau Dewislen Top Estyn Llaw
Dewislen Top Estyn Llaw Linc: Hafan Dewislen Top Estyn Llaw Linc: Cyngor i Fudiadau Linc: Gwirfoddoli Dewislen Top Estyn Llaw Linc: Swyddogion Maes Dewislen Top Estyn Llaw Dewislen Top Estyn Llaw Linc: Cysylltiadau
Linc: Cyngor i Fudiadau Dewislen Top Estyn Llaw
Dewislen Top Estyn Llaw
Dewislen Top Estyn Llaw Linc: Cofrestru
Linc: Cefndir Dewislen Top Estyn Llaw Linc: Cofrestru Dewislen Top Estyn Llaw Linc: Holiadur Mudiadau Dewislen Top Estyn Llaw Dewislen Top Estyn Llaw Linc: Cysylltu Dewislen Top Estyn Llaw
Dewislen Top Estyn Llaw Dewislen Top Estyn Llaw Linc: Hyfforddiant Dewislen Top Estyn Llaw
Dewislen Top Estyn Llaw
Dewislen Top Estyn Llaw
Dewislen Top Estyn Llaw
Dewislen Top Estyn Llaw Dewislen Top Estyn Llaw
Dewislen Top Estyn Llaw Dewislen Top Estyn Llaw
Dewislen Top Estyn Llaw

Beth yw Estyn Llaw

Digwyddiadau

Eisteddfod Sir Fflint 2007
14/08/2007

Cynllun Iaith Gwaith yn y Sector Gwirfoddol
21/07/2006

Grav yn Cefnogi Estyn Llaw
21/07/2006

Estyn Llaw a Cymunedau yn Gyntaf yn Ateb yr Her
21/07/2006

Eisteddfod Abertawe 2006
21/07/2006

Beth yw Estyn Llaw

Sefydlwyd Cynllun Estyn Llaw yn 2000 i gefnogi mudiadau gwirfoddol a chymunedol i gynyddu eu dwyieithrwydd ac i hybu gwirfoddoli ymysg siaradwyr Cymraeg. Rheolir y prosiect gan Iaith Cyf. ac rydym yn gweithio o swyddfeydd y cwmni yn Aberystwyth a Chastell Newydd Emlyn.

Nod ac Amcanion

Mae gan Gynllun Estyn Llaw ddau brif nod;

  • Cefnogi mudiadau gwirfoddol a chymunedol i ddatblygu dwyieithrwydd
  • Cynyddu gwirfoddoli trwy gyfrwng y Gymraeg.

Dulliau

Mae Cynllun Estyn Llaw yn gyson yn datblygu ei ddulliau gweithredu ac rydym yn ddigon hyblyg i ymateb i anghenion amrywiol gan fudiadau a gwirfoddolwyr/ wragedd mewn gwahanol ardaloedd. Yn gyffredinol, rydym yn defnyddio dulliau gweithredu cymunedol ac yn awyddus i weld prif-ffrydio’r Gymraeg fel rhan ganolog o waith y sector. Rydym yn trefnu ein gwaith mewn partneriaeth gyda nifer o gyrff allweddol eraill megis; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, Cynghorau Gweithredu Gwirfoddol, Biwros Gwirfoddoli lleol a Mentrau Iaith.

Dyma flas ar y math o weithgareddau diweddar y buom yn eu harwain neu yn cyfrannu atynt ;

  • Cynnal arolygon ymchwil i edrych ar batrymau gwirfoddoli Cymraeg a lefelau gweithio dwyieithog mudiadau a sefydliadau yn y sector gwirfoddol
  • Rhannu gwybodaeth ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd dwyieithrwydd trwy’r sector gwirfoddol
  • Sefydlu cytundebau gweithio gyda mudiadau unigol trwy gyswllt gyda Swyddogion Maes sy’n darparu cyngor a gwybodaeth
  • Ymgyrchoedd recriwtio gwirfoddolwyr dwyieithog
  • Rhannu gwybodaeth ac ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ymysg rhwydweithiau Cymraeg am gyfleoedd gwirfoddoli
  • Trefnu a datblygu hyfforddiant i hybu gweithio dwyieithog yn y sector gwirfoddol
  • Cynnal arddangosfeydd mewn digwyddiadau lleol

Mentrau Iaith Gymraeg

Ceir Mentrau Iaith yn y rhan fwyaf o ardaloedd yng Nghymru. Cysylltwch gyda nhw i weld pa weithgareddau sy’n mynd ymlaen yn eich ardal chi i hybu’r Gymraeg ac i rwydweithio gyda siaradwyr Cymraeg. Edrychwch am fanylion cyswllt y Mentrau Iaith ar eu safle we; www. mentrau-iaith.com



 

ymhol@estynllaw.org 0800 9177 969 Link to  Website in English