logo Estyn Llaw
Help / Cymorth

Iaith ac Urddas mewn Gofal



Pwrpas y prosiect Gofal, Iaith ac Urddas yw i weithio gyda darparwyr gwasanaethau gofal a chyhoeddus. Mae medru sicrhau gwasanaeth gofal yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn dod yn rhan fwyfwy pwysig o’r agenda Urddas a Gofal, a dyna oedd un ysgogiad wrth ddatblygu’r ffrwd yma o waith.

Nod y cynllun yw gweithio gyda chyrff er mwyn eu gwneud yn ymwybodol o anghenion iaith pobl sydd yn derbyn gofal, gan eu cynorthwyo i gynyddu eu hymwybyddiaeth o ran iaith y defnyddiwr. Y bwriad yw i’w cynorthwyo i newid eu harferion gwaith wrth ddelio gyda defnyddwyr – yn enwedig y bobl hynny sydd yn fregus. Adnabyddir y pedwar grŵp mwyaf bregus fel plant ifanc, pobl ag anableddau dysgu ac anghenion arbennig eraill, cleifion iechyd meddwl a phobl hyn.

Mae pwyslais gwaith prosiect yma ar brofiadau defnyddwyr a byddwn yn casglu tystiolaeth o anghenion iaith defnyddwyr yng nghyswllt gofal ynghyd a chywain enghreifftiau o arferion da. Y bwriad yw amlygu llais y defnyddiwr a chlywed eu straeon.
Drwy weithio gyda’r darparwyr gofal, byddwn yn cael effaith gadarnhaol a llesol ar urddas a hunan barch y defnyddwyr ac ar y profiad o dderbyn gofal gan gyrff gwirfoddol a chyhoeddus.
Dyluniad: Dafydd Jones     Datblygu a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration