Yn 1993 pasiwyd Deddf yr Iaith Gymraeg yn San Steffan. Tair prif elfen oedd i'r ddeddf sef
• Cydraddoldeb – sefydlu'r egwyddor y dylid trin y Gymraeg a'r Saesneg ar y sail eu bod yn gydradd wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru
• Darparu Gwasanaethau – sicrhau bod cyrff cyhoeddus sy'n darparu gwasanaethau i'r cyhoedd yng Nghymru yn paratoi Cynlluniau Iaith yn disgrifio sut byddant yn darparu gwasanaethau Cymraeg yn unol â chanllawiau Bwrdd yr Iaith.
• Sefydlu Bwrdd Iaith statudol er mwyn goruchwylio Cynlluniau Iaith a hyrwyddo'r Gymraeg yn gyffredinol
Yn 2011, pasiwyd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gyda chefnogaeth gan bob un o’r pedair plaid wleidyddol. Mae prif elfennau’r Ddeddf hon yn cynnwys:
• rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru
• darparu ar gyfer Cyngor Partneriaeth Cymru
• sefydlu swydd Comisiynydd y Gymraeg
• darparu ar gyfer Panel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg
• gwneud darpariaeth ynglŷn â hybu a hwyluso defnyddio’r Gymraeg
• creu trefn o gyflwyno dyletswyddau ar ffurf safonau iaith
• sefydlu’r egwyddor na ddylid trin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
• gwneud darpariaeth ynglŷn ag ymchwilio i ymyrraeth a’r rhyddid i ddefnyddio’r Gymraeg
• sefydlu Tribiwnlys y Gymraeg
• diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg