Mae sesiynau hyfforddiant ymwybyddiaeth iaith yn gallu bod yn ddull effeithiol iawn o newid agweddau, ac o newid arferion o ran defnydd iaith yn y Trydydd Sector drwy ofyn:
• Pam bod angen mynd i’r afael â’r Gymraeg?
• Beth sydd angen ei wybod am y Gymraeg a’i siaradwyr?
• Sut mae gweithredu mewn ffordd sy’n hwyluso defnydd o’r Gymraeg?
Fel arfer mae hyfforddiant yn digwydd fel rhan o broses ehangach o gryfhau'r Gymraeg o fewn mudiad 3ydd sector - o bosib drwy gyflwyno Cynllun Iaith. Gallwn ddarparu cyrsiau hanner diwrnod neu gyrsiau undydd.
Mae HYI yn cynnig cyfle i ystyried:
• Agweddau at y Gymraeg
• Arferion personol
• Demograffeg / ffeithiau cyfoes, a dylanwad hanes
• Iaith a grym
• Ymddygiad ac anghenion pobl ddwyieithog
• Cynyddu a normaleiddio’r defnydd o’r Gymraeg
Nid yw HYI yn:
X Gwrs dysgu Cymraeg
X Bwnc Gwleidyddol
X Sgwrs am y ‘pethe’
X Rhywbeth sy’n fwy addas i un gymuned ieithyddol nag i’r llall
Mae
IAITH cyf., yr elusen sy'n gweinyddu cynllun Estyn Llaw, yn cynnig rhaglen eang o gyrsiau ar gyfer y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol. Mae'r rhaglen yn cael ei diweddaru'n gyson.