Clwb Hwyl Hwyr – Amcan y prosiect oedd i gynyddu ar y gwaith a wnaed gan Glwb Hwyl Hwyr yn ardal Prestatyn. Darperir gweithgareddau i blant a phobl ifanc rhwng 5-14 drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Hefyd, ar gyfer unigolion dros bymtheg oed mae cyfleoedd i ddatblygu sgiliau newydd yn cynnwys Cymorth Cyntaf, Campau’r Ddraig, ac Amddiffyn Plant. Drwy’r prosiect Estyn Llaw, llwyddodd y clwb i gynyddu eu horiau gan ddarparu cynlluniau chwarae yn ystod gwyliau’r ysgol, digwyddiadau teuluol a chymunedol a chyflogi Swyddog Gwirfoddoli i farchnata’r cyfleoedd gwirfoddoli, gwella ansawdd gwirfoddoli a hyfforddi a chynnig hyfforddiant i wirfoddolwyr.

Criw Clwb Hwyl Hwyr yn mwynhau sesiwn parasiwt
"Mae'r grant rydym wedi ei dderbyn drwy Gronfa Ddatblygu Estyn llaw wedi ein helpu i ehangu nifer ein clybiau i 5 clwb ieuenctid dros 3 diwrnod i dros 150 o blant. Mae'r gefnogaeth wedi helpu Clwb Hwyl Hwyr i dalu am swyddog gwirfoddoli sydd wedi cynyddu cyfleoedd gwirfoddoli i dros 35 o bobl dros y flwyddyn diwethaf'
Journeys Torward Recovery – Denfyddiwyd yr arian grant i gynhyrchu holiadur i gasglu gwybodaeth am anghenion dioddefwyr iechyd meddwl sydd yn medru'r Gymraeg. Bydd yr ystadegau a gasglwyd yn medru cael eu defnyddio ar gyfer datblygiad pellach ar gyfer yr iaith Gymraeg ymhlith mudiadau sydd yn trafod iechyd meddwl.
Learning Disability Wales – Bwriad y cynllun yma oedd i roi cyfle i siaradwyr Cymraeg sydd ag anghenion dysgu i gael defnyddio dogfennau a gynhyrchwyd yn ‘Easy Read’. Crewyd canllawiau ar gyfer cyfieithwyr Cymraeg/ Saeseng ar ddefnydd addas o’r iaith Gymraeg mewn dogfennau ‘Easy Read’. Gellir gweld manylion y gwaith
yma a'r
canllawiau.
RSPB Cymru – Prosiect i gynyddu’r nifer o ysgolion cyfrwng Cymraeg sydd yn ymwneud â mudiad yr RSPB drwy hyrwyddo eu hunain fel darparwyr addysgiadol cyfrwng Cymraeg. Gwnaed hyn drwy gynyddu gwaith ‘outreach’. Hefyd, maent wedi annog yr ysgolion yma i ddefnyddio mwy ar ganolfannau’r RSPB drwy ddarparu sesiynau cyfrwng Cymraeg ar gyfer yr ystafell ddosbarth. Hyn oll yn helpu i gynyddu dwyieithrwydd ymhlith pobl ifanc.
“Estyn Llaw has helped us promote our Welsh Language Outdoor Education programmes and made it possible for more pupils to visit the RSPB at Lake Vyrnwy. Visiting this special place means that pupils can explore nature and see for themselves the importance of conservation for their future”

Iolo Williams a chriw o blant ysgol yng Nghanolfan Llyn Fyrnwy
Hafal – Mae Hafal wrthi yn datblygu adnoddau cyfrwng Cymraeg ar y cyd â gweithwyr a chleifion iechyd meddwl.
Cymdeithas Deillion Caerdydd – Cefnogwyd prosiect i redeg cwrs arloesol mewn sgiliau bywyd i bobl sydd yn colli eu golwg drwy gyfrwng y Gymraeg. Lansiwyd y prosiect yn Ngwynedd a bwriad Camu 'Mlaen yw roi'r sgiliau i bobl fedru ymwneud a gweithgareddau bob dydd, gan gynnwys rheoli arian, siopa a bod allan yn gyffredinol a defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
Peilot 6 mis oedd hwn a gweithiwyd mewn partneriaeth gyda Cymdeithas Deillion Gogledd Cymru, CVV a RNIB Cymru.
“Diolch i’r grant yma rydym wedi medru gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau pobl sydd wedi colli eu golwg yng Ngwynedd. Drwy weithio mewn partneriaeth rydym wedi medru ddefnyddio ein staff sy’n siarad Cymraeg i gyflwyno’r cwrs arbenigol hwn. Mae colli golwg yn medru bod yn drallodus ac yn anodd ei dderbyn. Wrth wynebu anhawster o’r fath mae’r rhan fwyaf ohonom yn teimlo’n fwy cyfforddus ac hyderus wrth ddefnyddio ein hiaith gyntaf i gyfathrebu ag eraill." Carys Henry, CVV
Profiadau Defnyddwyr:
"Mae'n dda cael cwrs fel yma lle y gallwn sgwrsio'n naturiol yn ein hiaith gyntaf, lle mae'r awyrgylch yn gyfarwydd a lle yr ydym yn teimlo'n gartrefol."
"Dyma'r tro cynta' i mi gael cynnig cwrs ymarferol yn y Gymraeg ar gyfer pobl sy'n colli eu golwg. Roedd y cwrs yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol lle roeddem yn medru rhoi cynnig ar ddefnyddio amrywiol 'gadgets'. Rwyf wedi rhoi fy enw i fod yn hwylysudd ac rwyf yn edrych ymlaen i redeg fy sesiynau fy hun gan rannu'r wybodaeth yr wyf wedi ei ddysgu."
Gwirfoddolwr/gyrrwr ar y cwrs:
"Roedd hi'n gret gweld y gwahaniaeth y mae Camu 'Mlaen yn medru gwneud i fywydau pob dydd pobl sydd yn colli eu golwg. Rwyf yn edrych ymlaen at gynorthwyo a rhedeg y cwrs yn fy ardal yn y dyfodol."