logo Estyn Llaw
Help / Cymorth

Meini Prawf y Gronfa Ddatblygu



Y nod yw cynnig y Gronfa i fudiadau 3ydd Sector sydd â Chynlluniau Iaith wedi eu cymeradwyo.
Rhoddir blaenoriaeth i fudiadau sy'n perthyn i un neu fwy o gategorïau'r 'Blaenoriaethau Strategol'.
Ni fydd mudiadau 3ydd sector yn gallu ceisio am gyllid er mwyn cyfrannu at gostau gwasanaeth sydd yn rhan o gytundeb gyda chorff cyhoeddus lle bo'r ddarpariaeth yn rhan o swyddogaethau statudol y corff hwnnw.
Ni fydd cyrff 3ydd sector sydd eisoes yn derbyn grant/cyllid yn uniongyrchol tuag at eu darpariaeth Gymraeg yn gymwys i dderbyn cyllid o'r Gronfa Ddatblygu.
Ariennir prosiectau na fyddai yn digwydd oni bai am y cyllid o'r Gronfa Ddatblygu.
Ni fydd modd cynnig cyllid o'r Gronfa Ddatblygu er mwyn i gyrff gyflawni'r elfennau sylfaenol o'u Cynlluniau Iaith Gymraeg.
Bydd ceisiadau am brosiect sy'n ymwneud yn bennaf â chyfieithu deunydd ysgrifenedig yn annhebygol o gael eu derbyn.



Dyluniad: Dafydd Jones     Datblygu a hostio'r wefan: Technoleg Taliesin Cyf.

Administration