Bwriad y cynllun yma yw i gynnig grantiau i fudiadau’r trydydd sector sydd â Chynlluniau Iaith Gymraeg, er mwyn eu hannog a’u hysgogi i ddatblygu a gweithredu prosiectau newydd, blaengar. Anelwn at ddatblygu arferion da mewn dwyieithrwydd, deuddiwyllianedd a’r defnydd o’r iaith Gymraeg.
Ymhlith y blaenoriaethau enghreifftiol posibl ar gyfer derbyn cyllid datblygu bydd unrhyw fenter newydd a fydd yn:
• cynyddu cyfranogaeth gan siaradwyr Cymraeg;
• gwella safon gwasanaethau i siaradwyr Cymraeg;
• cyfoethogi urddas defnyddwyr;
• recriwtio gwirfoddolwyr Cymraeg eu hiaith;
• datblygu dealltwriaeth ddiwylliannol;
• datblygu gwasanaethau cyngor mewn argyfwng neu bryder.
Meini Prawf y Gronfa Ddatblygu
• Y nod yw cynnig y Gronfa i fudiadau 3ydd Sector sydd â Chynlluniau Iaith wedi eu cymeradwyo.
• Rhoddir blaenoriaeth i fudiadau sy'n perthyn i un neu fwy o gategorïau'r 'Blaenoriaethau Strategol'.
• Ni fydd mudiadau 3ydd sector yn gallu ceisio am gyllid er mwyn cyfrannu at gostau gwasanaeth sydd yn rhan o gytundeb gyda chorff cyhoeddus lle bo'r ddarpariaeth yn rhan o swyddogaethau statudol y corff hwnnw.
• Ni fydd cyrff 3ydd sector sydd eisoes yn derbyn grant/cyllid yn uniongyrchol tuag at eu darpariaeth Gymraeg yn gymwys i dderbyn cyllid o'r Gronfa Ddatblygu.
• Ariennir prosiectau na fyddai yn digwydd oni bai am y cyllid o'r Gronfa Ddatblygu.
• Ni fydd modd cynnig cyllid o'r Gronfa Ddatblygu er mwyn i gyrff gyflawni'r elfennau sylfaenol o'u Cynlluniau Iaith Gymraeg.
• Bydd ceisiadau am brosiect sy'n ymwneud yn bennaf â chyfieithu deunydd ysgrifenedig yn annhebygol o gael eu derbyn.
Cyllid
Fel canllaw, mae ceisiadau i'r Gronfa fel arfer ar gyfer symiau sydd rhwng £2k a £5k - er does dim yn eich atal rhag ceisio am gyllid sy'n llai na hynny . Bydd disgwyl i'r mudiadau 3ydd sector llwyddiannus ariannu rhan o gostau'r prosiect eu hunain neu o ffynonellau eraill, gyda hyd at 70% o gostau'r prosiect yn dod o'r Gronfa Ddatblygu. Gall oriau gwaith staff/gwirfoddolwyr gyfrif tuag at yr elfen hon.
Proses ac Amserlen Ymgeisio
Daeth y cyfnod diweddaraf o ymgeisio i ben ar yr 16eg o Fai, 2012. Bydd y mudiadau llwyddiannus yn cael gwybod ddiwedd mis Mai gyda'r bwriad o rannu'r taliadau cyntaf ym mis Gorffennaf.